Cyfle Gwaith: Cydgysylltydd Gwaith Achos Etholaethol ar gyfer Benjamin Hodge Mckenna AS

Cyhoeddwyd 20/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/08/2026

Cyfle Gwaith: Cydgysylltydd Gwaith Achos Etholaethol ar gyfer Benjamin Hodge Mckenna AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 – £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol o 6 mis
Lleoliad: Swyddfa Etholaethol ym Mhort Talbot
Cyfeirnod: MBS-129-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Ymdrin ag achosion cymhleth a sensitif, gan ddarparu cymorth ac atebion wedi’u teilwra i etholwyr. Gall hyn gynnwys cefnogi etholwyr i ymgyrchu yn erbyn y materion a nodwyd ganddynt drwy rannu gwybodaeth a rhoi cyngor mewn perthynas â'r broses ddeddfwriaethol, hawliau ac ati.
  • Cyfathrebu ag adrannau’r llywodraeth, cynghorau lleol ac asiantaethau i gefnogi etholwyr i ddatrys problemau.
  • Cefnogi gweithwyr achos iau, gan roi arweiniad ynghylch ymdrin ag achosion a gweithdrefnau gweinyddol.
  • Mynd i gymorthfeydd yr Aelod, ymgysylltu’n uniongyrchol ag etholwyr, cymryd nodiadau manwl, a nodi camau dilynol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Gwybodaeth gyfreithiol a pholisi yn ymwneud â thai, lles a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rhedeg swyddfa brysur.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad priodol arall.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Benjamin.HodgeMckenna-MS@Senedd.Wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Benjamin.HodgeMckenna-MS@Senedd.Wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 3 Medi 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau