Cyfle Gwaith: Cydlynydd Cymorth ar gyfer Becca Martin

Cyhoeddwyd 02/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/09/2026

Cyfle Gwaith: Cydlynydd Cymorth ar gyfer Becca Martin 

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaethol
Cyfeirnod: MBS-174-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Cynnal gweithrediadau dyddiol swyddfa'r Aelod. 
  • Gweithio gyda staff swyddfa a rennir i oruchwylio gwaith staff iau ac interniaid. 
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a rheoliadau ariannol y Senedd. 
  • Amrywiaeth o weithgareddau gweinyddol gan gynnwys rheoli cofnodion yn effeithiol a gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag archwilio.

     

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Bod yn hyddysg o ran yr offer a'r cyfarpar ar gyfer y swydd, er enghraifft, pecynnau meddalwedd safonol, a meddu ar brofiad o ddefnyddio cyfryngau ar-lein mewn cyd-destun gwaith.
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig aeddfed iawn. 
  • Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn. 
  • Y gallu i weithio ar y cyd fel rhan o dîm bach.  

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol. 
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas. 

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â becca.martin-as@senedd.cymru.

I wneud cais, anfonwch eich cais at becca.martin-as@senedd.cymru erbyn y dyddiad cau. 

 

Dyddiad cau: 24 Medi 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: 5 Hydref 2026