Cyfle Gwaith: Cydlynydd Gwaith Achos ar gyfer Gwyn Williams AS

Cyhoeddwyd 06/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/08/2026

Cyfle Gwaith: Cydlynydd Gwaith Achos ar gyfer Gwyn Williams AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 – £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 6 mis
Lleoliad: Bydd y gweithiwr wedi'i leoli yn swyddfa'r etholaeth 4 diwrnod yr wythnos, a bydd yn gweithio yn y Senedd 1 diwrnod yr wythnos
Cyfeirnod: MBS-122-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Ymdrin ag achosion cymhleth a sensitif, gan ddarparu cymorth ac atebion teilwredig i etholwyr. Gall hyn gynnwys cefnogi etholwyr i ymgyrchu yn erbyn y materion a nodwyd ganddynt drwy hysbysu a rhoi cyngor mewn perthynas â'r broses ddeddfwriaethol, hawliau ac ati.
  • Cyfathrebu ag adrannau llywodraeth, cynghorau lleol ac asiantaethau i gefnogi etholwyr i ddatrys problemau.
  • Cefnogi gweithwyr achos iau, gan roi arweiniad ynghylch trin achosion a gweithdrefnau gweinyddol.
  • Mynd i gymorthfeydd yr Aelod, ymgysylltu’n uniongyrchol ag etholwyr, cymryd nodiadau manwl, a nodi camau dilynol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hynny.
  • Gwybodaeth gyfreithiol a pholisi yn ymwneud â thai, lles, mewnfudo a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Cymraeg / Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Gwyn.Williams-AS@Senedd.Cymru.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Gwyn.Williams-AS@Senedd.Cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 27 Awst 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau