Cynorthwyydd Gweinyddol i Nick Carter AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 (agored i geisiadau ar gyfer gweithio’n rhan amser)
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd Cymru a/neu Swyddfa Etholaeth Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-044-26
Diben y swydd:
Bydd Swyddog Gwaith Achos Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelodau) yn ymdrin ag achosion mwy cymhleth, yn eiriol dros etholwyr, ac yn ymchwilio i bolisi wrth ddarparu cefnogaeth i etholwyr a'r Aelod. Bydd yn gweithio'n annibynnol ar waith achosion, yn cysylltu ag asiantaethau’r llywodraeth a chyrff perthnasol eraill yn ôl yr angen.
Prif ddyletswyddau:
Rheoli Gwaith Achos a Chymorth i Etholwyr
• Ymdrin ag achosion cymhleth a sensitif, gan ddarparu cymorth ac atebion teilwredig i etholwyr. Gall hyn gynnwys cefnogi etholwyr i ymgyrchu yn erbyn y materion a nodwyd ganddynt drwy rannu gwybodaeth a rhoi cyngor mewn perthynas â'r broses ddeddfwriaethol, hawliau ac ati.
• Ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â pholisi neu faterion cyfreithiol sy'n effeithio ar etholwyr ac uwchgyfeirio pryderon brys i'r Aelod.
• Drafftio ac anfon llythyrau manwl, adroddiadau a chrynodebau o achosion ar ran yr Aelod.
• Cynnal a chadw cofnodion achosion gan ddefnyddio systemau rheoli gwaith achos, gan sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau diogelu data.
• Cynllunio a rheoli llwyth gwaith personol yn unol â gofynion yr Aelod.
Eiriolaeth a Chysylltu â Chyrff Llywodraeth
• Cyfathrebu ag adrannau’r llywodraeth, cynghorau lleol ac asiantaethau i gefnogi etholwyr i ddatrys problemau.
• Uwchgyfeirio achosion i wasanaethau ombwdsmyn, Gweinidogion, neu bwyllgorau’r Senedd pan fo angen.
• Datblygu dealltwriaeth gref o faterion lles, tai, mewnfudo, gofal iechyd a chyfreithiol er mwyn cefnogi etholwyr yn well.
• Dilyn datblygiadau mewn deddfwriaeth, ym mhenderfyniadau llywodraeth leol ac mewn polisïau cenedlaethol i lywio gwaith achos.
• Cyfrannu at friffiau polisi a pharatoi gwybodaeth gefndir ar gyfer gwaith seneddol, dadleuon neu areithiau'r Aelod.
Goruchwyliaeth a Mentora
• Cefnogi gweithwyr achos iau, gan roi arweiniad ynghylch ymdrin ag achosion a gweithdrefnau gweinyddol.
• Goruchwylio hynt achosion blaenoriaeth uchel a sicrhau ymatebion amserol.
Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Chysylltu Cymunedol
• Mynd i gymorthfeydd yr Aelod, ymgysylltu’n uniongyrchol ag etholwyr, cymryd nodiadau manwl, a nodi camau dilynol.
• Cynrychioli'r Aelod mewn digwyddiadau cymunedol, cyfarfodydd lleol ac ymweliadau yn yr etholaeth.
• Meithrin a chynnal cysylltiadau ag elusennau lleol, grwpiau eiriolaeth, a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Arall
• Cyflawni dyletswyddau eraill sy'n gymesur â'r band hwn, yn ôl yr angen, i gefnogi'r Aelod.
Sgiliau ac ymddygiadau hanfodol:
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf ar gyfer drafftio gohebiaeth a chysylltu â rhanddeiliaid.
- Y gallu i reoli nifer o achosion a blaenoriaethu materion brys.
- Disgresiwn a chyfrinachedd wrth ymdrin â gwaith achos sensitif.
- Sgiliau datrys problemau a negodi wrth eiriol ar ran etholwyr.
- Disgwylir bod yn hyddysg yn yr adnoddau a’r offer arferol ar gyfer y swydd, er enghraifft pecynnau meddalwedd safonol.
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig sydd wedi’u datblygu i raddau da.
- Sgiliau TG effeithiol, yn enwedig wrth ddefnyddio pecynnau Microsoft fel Word, Outlook ac Excel.
Cymwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.