Cyfle Gwaith: Cydlynydd Gweithredol ar gyfer Kiera Marshall
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel a swyddfa'r etholaeth
Cyfeirnod: MBS-163-26
Prif ddyletswyddau:
- Cynnal gweithrediadau dyddiol swyddfa'r Aelod.
- Goruchwylio gwaith staff iau ac interniaid.
- Bod yn rheolwr llinell ar gyfer Gweithiwyr Achos
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a rheoliadau ariannol y Senedd.
- Amrywiaeth o weithgareddau gweinyddol gan gynnwys rheoli cofnodion yn effeithiol a gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag archwilio.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Bod yn hyddysg o ran yr offer a'r cyfarpar ar gyfer y swydd, er enghraifft, pecynnau meddalwedd safonol, a meddu ar brofiad o ddefnyddio cyfryngau ar-lein mewn cyd-destun gwaith.
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig aeddfed iawn.
- Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.