Cyfle Gwaith: Cydlynydd Seneddol ar gyfer Natasha Asghar AS

Cyhoeddwyd 11/09/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/09/2026

Cyfle Gwaith: Cydlynydd Seneddol ar gyfer Natasha Asghar AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa etholaethol, Casnewydd
Cyfeirnod: MBS-169-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
  • Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai, mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd.
  • Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i'r ardal leol a dealltwriaeth ohonynt.
  • Sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol.
  • Y gallu i ddangos sensitifrwydd ac i sicrhau bod y safonau cyfrinachedd uchaf yn cael eu cynnal.
  • Y gallu i weithio ar y cyd fel rhan o dîm bach. 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Sam.Hall@Senedd.Wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Sam.Hall@Senedd.Wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 12 Hydref 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau