Cyfle gwaith: Cydlynydd Swyddfa i Benjamin Hodge Mckenna AS
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod Penodol am 6 mis, gyda'r posibilrwydd o gael ei wneud yn barhaol
Lleoliad: Swyddfa etholaeth, Port Talbot; a Senedd, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-034-26
Diben y swydd:
Mae Swyddog Rheoli Busnes a Gweinyddiaeth Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelod) yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith sy'n berthnasol i redeg swyddfa'r Aelod, a gwaith yr Aelod o ddydd i ddydd, yn esmwyth. Gall gwaith o'r fath gynnwys cyllid, rheoli dyddiaduron, cadw cofnodion neu waith sy'n gysylltiedig â phobl.
Prif ddyletswyddau:
- Cynnal gweithrediadau dyddiol swyddfa'r Aelod.
- Goruchwylio gwaith staff iau ac interniaid.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a rheoliadau ariannol y Senedd.
- Amrywiaeth o weithgareddau gweinyddol gan gynnwys rheoli cofnodion yn effeithiol a gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag archwilio.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio mewn timau, gyda'r gallu i gydlynu staff, interniaid a gwirfoddolwyr yn effeithiol.
Cymhwysterau hanfodol:
- Cymhwyster proffesiynol neu academaidd priodol neu brofiad cyfatebol.