Cyfle Gwaith: Cydlynydd y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Zaynub Akbar AS, Nick Carter AS a Dafydd Trystan Davies AS
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 22.2 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol am 6 mis
Lleoliad: Senedd a Swyddfa’r Etholaeth
Cyfeirnod: MBS-159-26
Prif ddyletswyddau:
- Sgriptio, ffilmio a golygu cynnwys fideo ffurf fer ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Instagram, TikTok a Facebook.
- Cefnogi’r swyddogaeth gyfathrebu ehangach gyda chynnwys gweledol a fideo ar gyfer defnydd yn y wasg a’r cyfryngau lle bo angen.
- Ffilmio a chynhyrchu cynnwys mewn digwyddiadau, cymorthfeydd ac ymweliadau etholaethol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad amlwg o gynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys fideo ffurf fer, ar draws ystod o lwyfannau fel Instagram, TikTok, Facebook, X/Twitter, YouTube ac ati.
- Profiad o sgriptio, ffilmio a golygu cynnwys fideo gwreiddiol, a chynhyrchu graffeg i’w ddefnyddio ar draws sianeli digidol.
- Ymwybyddiaeth wleidyddol a dealltwriaeth o’r sensitifrwydd sy’n gysylltiedig â chynhyrchu cynnwys ar ran Aelod etholedig.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol (e.e cynhyrchu cyfryngau, ffilm, newyddiaduraeth, marchnata).
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.