Cyfle Gwaith: Cydlynydd y Wasg ar gyfer Swyddfa Grŵp Reform UK
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol am 6 mis
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-080-26
Diben y swydd:
Bydd Swyddog Cyfathrebu Band 2 sy’n gweithio i Aelod o’r Senedd yn gwneud gwaith ymchwil, y wasg a’r cyfryngau yn ôl yr angen, gan sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu lledaenu i bobl drwy’r cyfrwng mwyaf priodol.
Prif ddyletswyddau:
- Ysgrifennu datganiadau i'r wasg a briffiau i'r cyfryngau.
- Rheoli'r naws ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol.
- Goruchwylio gwaith staff neu interniaid Band 3 i sicrhau gwaith o ansawdd uchel.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
- Yn meddu ar brofiad o dirwedd y cyfryngau ac yn defnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol. Profiad o gynghori ar gamau gweithredu gan y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.
- Yn gallu dylanwadu ar agenda'r cyfryngau drwy gynllunio ymlaen llaw yn rhagweithiol ac yn datblygu strategaethau i ddiogelu a gwella enw da. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â'r cyfryngau, gan gynnwys llunio cynllun cyfathrebu, yn ofyniad allweddol.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.