Cyfle Gwaith: Cynghorwr Gweithredol ar gyfer Andrew Griffin AS
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol am 6 mis
Lleoliad: Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-072-26
Diben y swydd:
Bydd Swyddog Polisi ac Ymchwil Band 1 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn arwain ar waith polisi ac ymchwil, a bydd yn chwarae rhan yn y broses o lunio safbwyntiau polisi ac yn ymgymryd â gwaith deddfwriaethol. Fel arfer, bydd yn arwain ar weithgarwch ym maes ymchwil a chraffu. Bydd yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu polisïau, ac yn gweithredu fel cynghorydd i'r Aelod ar faterion cymhleth.
Prif ddyletswyddau:
- Gwneud gwaith ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, polisïau'r Llywodraeth a thueddiadau gwleidyddol.
- Drafftio a chyflwyno cwestiynau, cynigion, areithiau a gwelliannau yn y Senedd.
- Cefnogi staff Cyfathrebu i ddrafftio datganiadau i'r wasg a datganiadau polisi ar gyfer y cyfryngau ac allgymorth cyhoeddus.
- Goruchwylio gwaith swyddogion polisi, ymchwilwyr llai profiadol a staff eraill, o bosibl, er mwyn sicrhau gwaith o ansawdd uchel.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad sylweddol o ddarparu gwaith ymchwil neu waith briffio mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
- Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
- Dealltwriaeth o wahanol fodelau'r broses ymchwil a datblygu polisïau; yn ymwybodol o ba rai sy'n berthnasol i’r maes polisi a pham.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.