Cyfle Gwaith: Cynghorydd Polisi ac Ymchwil ar gyfer Kiera Marshall AS
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel a Swyddfa'r Etholaeth.
Cyfeirnod: MBS-164-26
Prif ddyletswyddau:
- Drafftio briffiau, adroddiadau a dadansoddiadau polisi cynhwysfawr.
- Drafftio a chyflwyno cwestiynau, cynigion, areithiau a gwelliannau ar gyfer y Senedd.
- Cysylltau â melinau trafod, elusennau, grwpiau eiriolaeth a busnesau i gasglu gwybodaeth gan arbenigwyr.
- Gall oruchwylio neu gydlynu staff ymchwil iau neu interniaid i sicrhau allbwn ymchwil o safon.
- Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth gref o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati), yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol, a’r gallu i ddarparu cyngor gwybodus i’r Aelod a chydweithwyr ar y materion hyn.
- Sgiliau dadansoddi ac ymchwil cryf, gyda'r gallu i ddehongli deddfwriaeth a data cymhleth.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, gyda'r gallu amlwg i lunio adroddiadau a phapurau briffio clir ac argyhoeddiadol.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.