Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Cyfathrebu a’r Cyfryngau ar gyfer Joe Martin AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol am 6 mis
Lleoliad: Tŷ Hywel / Swyddfa etholaeth
Cyfeirnod: MBS-180-26
Prif ddyletswyddau:
- Monitro'r cyfryngau lleol a chenedlaethol am newyddion perthnasol.
- Rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Aelod (Twitter/X, Facebook, Instagram, LinkedIn) yn ôl cyfarwyddyd yr Aelod neu aelod uwch o staff.
- Ysgrifennu cylchlythyrau, diweddaru’r wefan, ac erthyglau blog.
- Gweithredu o fewn y gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau'n gweithredu o’u mewn, gan gynnwys fframweithiau'r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) a fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol).
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Disgwylir iddynt ddatblygu hyfedredd mewn maes gwaith gweinyddol neu
ymarferol; gallu ateb ystod safonol o ymholiadau gan eraill a gwybod pryd i
atgyfeirio ymholiadau mwy cymhleth.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn
seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e.
NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol. - Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a
Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad
arall addas.