Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Cyfathrebu a'r Cyfryngau Rhan-amser ar gyfer Sioned Williams AS

Cyhoeddwyd 22/07/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/07/2026

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Cyfathrebu a'r Cyfryngau Rhan-amser ar gyfer Sioned Williams AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 10 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth yng Nghastell-nedd
Cyfeirnod: MBS-115-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Monitro'r cyfryngau lleol a chenedlaethol am newyddion perthnasol. 
  • Rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Aelod (Twitter/X, Facebook, Instagram, Linkedin) yn ôl cyfarwyddyd yr Aelod neu aelod uwch o staff. 
  • Ysgrifennu cylchlythyrau, diweddaru'r wefan, ac erthyglau blog.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Disgwylir iddynt ddatblygu hyfedredd mewn maes gwaith gweinyddol neu ymarferol; gallu ateb ystod safonol o ymholiadau gan eraill a gwybod pryd i atgyfeirio ymholiadau mwy cymhleth. 
  • Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
  • Profiad a dealltwriaeth ymarferol o'r gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor cymwys. 

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithfrednau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol - e.e. NVQ lefel 3 neu 4, neu brofiad cyfatebol mewn pwnc perthnasol. 

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Sioned.Williams-MS@Senedd.Wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Sioned.Williams@Senedd.Wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 29 Gorffennaf 2026 am 17:00


Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau.