Cynorthwyydd Cyfathrebu i John Griffiths AS
Ystod Cyflog: £23,742 - £31,798 pro-rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau Gweithio: 29.6
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd, Bae Cymru
Cyfeirnod: MBS-012-24
Pwrpas y Swydd
Gwneud gwaith sy’n ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau (yn ymwneud â’r gweithgareddau yn y Senedd ac yn yr etholaeth) ar ran yr Aelod o’r Senedd yn ôl y gofyn, gan sicrhau y cynhelir safonau cyfrinachedd.
Prif ddyletswyddau:
- Gwneud gwaith ymchwil, paratoi ac ysgrifennu datganiadau i'r wasg ar gyfer y cyfryngau.
- Trafod â’r Aelod o’r Senedd / Rheolwr y Swyddfa a nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i’r cyfryngau
- Nodi digwyddiadau/ymgyrchoedd sydd i ddod a all fod yn gyfleoedd ar gyfer sylw yn y cyfryngau a helpu i drefnu digwyddiadau/ymgyrchoedd o’r fath
- Sefydlu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau, cymorthfeydd ac ati, ac ymateb i ymholiadau a sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol
- Profiad mewn amgylchedd ymchwil neu wybodaeth
- Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal a’r gallu i weithredu mewn amgylchedd sensitif, ac ymrwymiad i'r materion hyn
- Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn
Cymwysterau hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.
I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Andrew.Bettridge@senedd.cymru
Dyddiad cau: 12:00 (canol dydd), 11 Gorffennaf 2024.
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau