Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Cymorth Gweithrediadau ar gyfer Anna Brychan AS / Leticia Gonzalez AS

Cyhoeddwyd 05/10/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/10/2026

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Cymorth Gweithrediadau ar gyfer Anna Brychan AS / Leticia Gonzalez AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873 

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos (15 awr yr wythnos gyda bob Aelod)
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel / Swyddfa’r Etholaeth
Cyfeirnod: CBA-196-26

Noder bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu am gyfanswm o 30 awr yr wythnos .  Mae'r Aelod sy’n hysbysebu wedi ymrwymo i weithio gyda'r Aelodau arall o'i blaid a bydd y contract yn cael ei rannu rhwng sawl Aelodau. Yn ogystal â Leticia Gonzalez AS, yr Aelod arall o'i blaid a allai benodi i'r rôl hon yw Anna Brychan AS.

Prif ddyletswyddau:

  • Ymdrin â negeseuon e-bost, llythyrau a galwadau ffôn gan etholwyr, rhanddeiliaid a chyrff llywodraeth.
  • Cefnogi ymchwil ar faterion lleol a pholisïau'r Llywodraeth.
  • Cefnogi'r Aelod i reoli staff ac adnoddau swyddfa yn effeithlon.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i'r ardal leol a dealltwriaeth ohonynt
  • Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
  • Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor cymwys.
  • Profiad o roi mesurau diogelu cymesur ar waith mewn perthynas â phlant ac oedolion sy’n agored i niwed.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Anna.Brychan-AS@Senedd.Cymru.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Anna.Brychan-AS@Senedd.Cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 19 Hydref 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau