Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Etholaeth ar gyfer Kerry Ferguson AS ac Anna Nicholl AS

Cyhoeddwyd 07/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/08/2026

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Etholaeth ar gyfer Kerry Ferguson AS ac Anna Nicholl AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos i gyd – yn gweithio 18.5 awr i Anna Nicholl, ac 
18.5 awr i Kerry Ferguson.
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth Sir Benfro, Hwlffordd
Cyfeirnod: MBS-149-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Ymdrin â negeseuon e-bost, llythyrau a galwadau ffôn gan etholwyr, rhanddeiliaid 
    a chyrff llywodraeth.
  • Cefnogi gwaith etholaethol yr Aelodau drwy fod y pwynt cyswllt cyntaf yn Swyddfa 
    Etholaeth Sir Benfro.
  • Cefnogi'r Aelod i reoli staff ac adnoddau swyddfa yn effeithlon.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i'r ardal leol a dealltwriaeth ohonynt.
  •  Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch 
    gwybodaeth.
  • Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd, 
    diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i 
    geisio cyngor cymwys.

Cymhwysterau hanfodol: 

  •  Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn 
    seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. 
    NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a 
    Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall 
    addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Branwen.Davies@senedd.wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Branwen.Davies@senedd.wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: : 1yh Dydd Llun 24 Awst

Dyddiad cyfweliad: Dydd Iau/Gwener 27/28 Awst 2026 - TBC