Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Etholaethol a Gweithiwr Achos ar gyfer Darren Millar AS

Cyhoeddwyd 19/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/06/2026

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Etholaethol a Gweithiwr Achos ar gyfer Darren Millar AS

Ystod cyflog (pro rata): 

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 22.2 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth
Cyfeirnod: MBS-085-26

Diben y swydd: 

Byddai Swyddog Gwaith Achos Band 3 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd fel arfer yn gyfrifol am gynorthwyo etholwyr gyda materion y maent yn eu hwynebu ac am sicrhau eu bod yn cael y cymorth angenrheidiol gan asiantaethau'r llywodraeth, cynghorau lleol a sefydliadau eraill.

Prif ddyletswyddau:

  • Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
  • Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai, mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd.
  • Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
  • Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
  • Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor cymwys.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Cymraeg/Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Darren.Millar-MS@senedd.wales 

Dyddiad cau: 26 Mehefin 2026, 5yh
Dyddiad cyfweliad: TBC