Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Gwaith Achos a Chyswllt Cymunedol ar gyfer Nerys Evans AS

Cyhoeddwyd 27/07/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2026

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Gwaith Achos a Chyswllt Cymunedol ar gyfer Nerys Evans AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 – £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 22 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth/Cartref
Cyfeirnod: MBS-121-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Ymateb i ymholiadau etholwyr a grwpiau cymunedol dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
  • Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai, mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd.
  • Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
  • Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
  • Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor cymwys.

 

Cymhwysterau hanfodol:

  • Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad priodol arall.

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Nerys.Evans-MS@Senedd.Wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Nerys.Evans-MS@Senedd.Wales

erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 05 Awst 2026 at 17:00

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau.