Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Gwaith Achos ar gyfer Francesca O'Brien AS

Cyhoeddwyd 29/07/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/07/2026

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Gwaith Achos ar gyfer Francesca O'Brien AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr (croesewir trefniant rhannu swydd hefyd)
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Abertawe
Cyfeirnod: MBS-128-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
  • Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai, mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd.
  • Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
  • Profiad o roi mesurau diogelu cymesur ar waith mewn perthynas â phlant ac oedolion sy’n agored i niwed. 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Francesca.OBrien-MS@Senedd.Wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Francesca.OBrien-MS@Senedd.Wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 12 Awst 2026, 17:00


Dyddiad cyfweliad: TBC