Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Gwaith Achos ar gyfer Mark Hooper AS a Sarah Rees AS

Cyhoeddwyd 06/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/08/2026

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Gwaith Achos ar gyfer Mark Hooper AS a Sarah Rees AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa’r Etholaeth (Y Barri) a’r Senedd
Cyfeirnod: MBS-146-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
  • Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai, mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd.
  • Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
  • Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad priodol arall.

Noder bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu am gyfanswm o 37 awr yr wythnos.  Mae'r Aelod sy’n hysbysebu wedi ymrwymo i weithio gyda'r Aelodau arall o'i blaid a bydd y contract yn cael ei rannu rhwng sawl Aelodau. Yn ogystal ag Mark Hooper AS, yr Aelod arall o'i blaid a allai benodi i'r rôl hon yw Sarah Rees AS.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Ian.Johnson@Senedd.Cymru.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Ian.Johnson@Senedd.Cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 20 Awst 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: 27-28 Awst / 10-11 Medi 2026