Heledd Fychan AS

Heledd Fychan AS

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Gweinyddol ar gyfer Heledd Fychan AS

Cyhoeddwyd 16/09/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/09/2025

 Cynorthwyydd Gweinyddol ar gyfer Heledd Fychan AS 

Ystod cyflog (pro rata): £25,167 - £33,706

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 25 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor penodol am 8 mis
Lleoliad: Swyddfa ym Mhontypridd
Cyfeirnod: MBS-041-25

Diben y swydd: 

Darparu gwasanaeth ysgrifenyddol a chymorth gweinyddol i’r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal. 

Prif ddyletswyddau:

  1. Llunio amrywiol lythyrau neu adroddiadau yn ôl yr angen.
  2. Cynnal system ffeilio ddigidol gan gynnwys gwaith achos sy'n cysylltu papurau blaenorol â gohebiaeth gyfredol, a dod o hyd i ddogfennau yn ôl y gofyn.
  3. Ateb y ffôn, nodi negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel y bo’n briodol.
  4. Didoli’r post sy’n cyrraedd y swyddfa yn ôl blaenoriaeth a pharatoi atebion drafft i ohebiaeth arferol.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa e.e. ar bapur ac ar gyfrifiadur.
  • Dealltwriaeth o’r angen a’r ymrwymiad i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
  • Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.  

Cymhwysterau hanfodol:

  • Cymhwyster NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn Gweinyddu Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol, neu
  • Sgiliau rhifedd a llythrennedd y gellir eu dangos e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu'n uwch, neu
  • brofiad cymharol mewn swydd debyg.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Eleri.Griffiths@Senedd.Cymru 

 


Dyddiad cau: 29 Medi 2025, 10am
Dyddiad cyfweliad: 3 Hydref 2025