Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Polisi ac Ymchwil ar gyfer Sam Rowlands AS

Cyhoeddwyd 14/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/08/2026

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Polisi ac Ymchwil ar gyfer Sam Rowlands AS

Ystod cyflog (pro rata): £25,345 - £33,973

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol am 12 mis (darpariaeth gyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth)
Lleoliad: Senedd
Cyfeirnod: MBS-153-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Gwneud gwaith ymchwil cefndirol ar faterion polisi, deddfwriaeth a phryderon 
    etholaethol.
  • Drafftio a chyflwyno cwestiynau’r Senedd a llythyrau at Weinidogion.
  • Helpu’r Aelod a chydweithwyr i ymgysylltu ag etholwyr, grwpiau buddiant a rhanddeiliaid.
  • Monitro’r newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau perthnasol neu bryderon y cyhoedd.
  • Cynnal cronfa ddata ymchwil drefnus y gellid cyfeirio ati.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Ymwybyddiaeth wleidyddol, gan ddilyn materion cyfoes a pholisïau’r blaid.
  • Sylw i fanylion, gan sicrhau cywirdeb mewn dogfennau ymchwil a pholisi. 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Sam.Rowlands-MS@Senedd.Wales 

I wneud cais, anfonwch eich cais at Sam.Rowlands-MS@Senedd.Wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 21 Awst 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: TBC