Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Seneddol ar gyfer Sarah Rees AS a Mark Hooper AS

Cyhoeddwyd 06/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/08/2026

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Seneddol ar gyfer Sarah Rees AS a Mark Hooper AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 – £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos (wedi'u rhannu rhwng dau Aelod)
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa’r Etholaeth (Y Barri), y Senedd a Gartref
Cyfeirnod: MBS-141-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Cynnal ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, meysydd polisi a mentrau'r llywodraeth.
  • Drafftio a chyflwyno cwestiynau, cynigion, areithiau a gwelliannau ar gyfer y Senedd.
  • Cysylltu â melinau trafod, elusennau, grwpiau eiriolaeth a busnesau i gasglu gwybodaeth gan arbenigwyr.
  • Gall oruchwylio neu gydlynu staff ymchwil iau neu interniaid i sicrhau allbwn ymchwil o safon.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati), yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol, a’r gallu i ddarparu cyngor gwybodus i’r Aelod a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Sgiliau dadansoddi ac ymchwil cryf gyda'r gallu i ddehongli deddfwriaeth a data cymhleth.
  • Cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol gyda'r gallu amlwg i lunio adroddiadau a phapurau briffio clir ac argyhoeddiadol.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.

Noder bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu am gyfanswm o 37 awr yr wythnos.  Mae'r Aelod sy’n hysbysebu wedi ymrwymo i weithio gyda'r Aelodau arall o'i blaid a bydd y contract yn cael ei rannu rhwng sawl Aelodau. Yn ogystal ag Sarah Rees AS, yr Aelod arall o'i blaid a allai benodi i'r rôl hon yw Mark Hooper AS.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Ian.Johnson@Senedd.Cymru.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Ian.Johnson@Senedd.Cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 20 Awst 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: 27-28 Awst / 10-11 Medi 2026