Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Lisbeth McLean AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 15 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Merthyr Tudful
Cyfeirnod: MBS-105-26
Diben y swydd:
Byddai Swyddog Cyfathrebu Band 3 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd fel arfer yn gyfrifol
am gynorthwyo ymdrechion cyfathrebu’r Aelod, yn fewnol ac yn allanol, gan gynorthwyo’r
Aelod i ledaenu negeseuon a gwybodaeth allweddol.
Prif ddyletswyddau:
- Monitro'r cyfryngau lleol a chenedlaethol am newyddion perthnasol.
- Rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Aelod (Twitter/X, Facebook, Instagram,
LinkedIn) yn ôl cyfarwyddyd yr Aelod neu aelod uwch o staff. - Ysgrifennu cylchlythyrau, diweddaru’r wefan, ac erthyglau blog
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a
diogelwch gwybodaeth.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn
seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e.
NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol