Fideograffydd ar gyfer Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig
Ystod cyflog (pro rata): £27,722 – £40,321
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos (ystyrir oriau rhan-amser)
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 12 mis (estyniad yn bosibl)
Lleoliad: Senedd Cymru, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-022-25
Diben y swydd:
Creu cynnwys fideo sy'n tynnu sylw at waith Aelodau Plaid Geidwadol Cymru yn y Senedd.
Prif ddyletswyddau:
- Dylunio a chynhyrchu deunydd fideo, clipiau fideo a deunydd animeiddio i hyrwyddo gwaith Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd a gwaith Aelodau unigol o’r Senedd.
- Cynllunio a datblygu strategaeth, a threfnu cynnwys fideo ar gyfer sianeli cyfryngau y Grŵp.
- Trafod gyda’r Aelod o’r Senedd / Prif Swyddog Staff y Grŵp a nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb mewn cysylltiad â deunydd fideo.
- Canfod unrhyw ddigwyddiadau sydd ar y gweill a allai gynnig cyfleoedd ar gyfer fideos neu sylw yn y cyfryngau.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio'n effeithiol ym maes creu fideo a chynnwys fideo.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o greu fideos a thechnegau cynnwys fideo.
- Dealltwriaeth o'r angen i adlewyrchu barn y Grŵp a’r Aelodau o’r Senedd mewn modd sy'n adlewyrchu cyfle cyfartal ac nad yw'n ymfflamychol, yn ansensitif, yn enllibus, yn athrodus neu'n ddifenwol
- Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â David.Davies@senedd.cymru