Gweinyddwr ar gyfer Jane Dodds MS
Ystod cyflog (pro rata): £25,167 - £33,706
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 18.5 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor Penodol tan fis Ebrill 2026 (gyda'r posibilrwydd o'i wneud yn barhaol)
Lleoliad: Aberhonddu / Hyblyg
Cyfeirnod: MBS-036-25
Diben y swydd:
Darparu gwasanaeth ysgrifenyddol/cymorth gweinyddol i’r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau:
- Trawsgrifio/teipio (gan gynnwys sain) amryw lythyrau a/neu adroddiadau (yn fwy perthnasol i rôl Cynorthwyydd Personol - gallwch ddileu os yw’n briodol)
-
Cynnal system ffeilio, gan gysylltu papurau blaenorol â gohebiaeth gyfredol, a dod o hyd i ddogfennau pan wneir cais amdanynt
-
Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel y bo’n briodol
-
Didoli’r post sy’n dod i mewn yn ôl blaenoriaeth a pharatoi atebion drafft i ohebiaeth arferol
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa, e.e. rhai â llaw a rhai cyfrifiadurol
- Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn
- Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i'r ardal leol a dealltwriaeth ohonynt
Cymhwysterau hanfodol:
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu gyfatebol mewn Gweinyddu Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol, neu
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Jane.Dodds@Senedd.Cymru