Hannah Blythyn

Hannah Blythyn

Cyfle Gwaith: Gweithiwr Achos a Chydlynydd Etholaethol ar gyfer Hannah Blythyn AS

Cyhoeddwyd 07/07/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/07/2025

Gweithiwr Achos a Chydlynydd Etholaethol ar gyfer Hannah Blythyn AS

Ystod cyflog (pro rata): £27,722 – £40,321

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 25 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol tan fis Mai 2026 gyda'r posibilrwydd y caiff y swydd ei gwneud yn un barhaol

Lleoliad: Swyddfa’r Etholaeth (gyda’r gallu i weithio gartref yn ôl cytundeb)
Cyfeirnod: MBS-028-25

Diben y swydd: 

Darparu cymorth gweinyddol, etholaethol a seneddol, a chymorth gyda chyhoeddusrwydd, i’r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau y cynhelir safonau cyfrinachedd.

Prif ddyletswyddau:

  1. Ateb ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel y bo'n briodol yn ogystal â chysylltu â'r Uwch Gynghorwr i sicrhau bod y swyddfa etholaeth yn gweithredu’n effeithiol o ddydd i ddydd
  2. Datblygu a chynnal system gwaith achos gan sicrhau bod pob achos yn cael ei gofnodi, monitro cynnydd a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodwyd yn cael eu cymryd.
  3. Cynnal system ffeilio electronig, gan gysylltu papurau blaenorol â gohebiaeth bresennol, a dod o hyd i ddogfennau pan wneir cais amdanynt.
  4. Mynd i gyfarfodydd a/neu ddigwyddiadau gyda’r Aelod o’r Senedd a chynrychioli’r Aelod o’r Senedd yn y gymuned

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa.
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rheoli swyddfa brysur.
  • Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i'r ardal leol a dealltwriaeth ohonynt.
  • Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
  • Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Sandra.Richards@Senedd.Cymru

 


Dyddiad cau: 14 Gorffennaf 2025, 5pm
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau