Gareth Davies AS

Gareth Davies AS

Cyfle Gwaith: Gweithiwr Achos a Chynorthwy-ydd Etholaeth i Gareth Davies AS

Cyhoeddwyd 21/10/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/10/2024   |   Amser darllen munudau

Gweithiwr Achos a Chynorthwy-ydd Etholaeth i Gareth Davies AS

Ystod Cyflog: £23,742 - £31,798 pro rata

Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.

Oriau Gweithio: 22.2

Natur y penodiad: Cyfnod Penodol – 18 Mis

Lleoliad: Swyddfa Etholaeth

Cyfeirnod:  MBS-029-24

Pwrpas y Swydd:

Darparu cefnogaeth gweinyddol ac etholaethol a chefnogaeth o ran cyhoeddusrwydd i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau

  • Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol.
  • Sicrhau bod pob achos yn cael ei gofnodi; monitro cynnydd a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodwyd yn cael eu cymryd
  • Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw a gwybodaeth yn cael ei rheoli'n gyfrinachol yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data
  • Didoli’r post sy’n dod i mewn yn ôl trefn blaenoriaeth a pharatoi atebion drafft i ohebiaeth arferol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol

  • Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol
  • Rhywfaint o brofiad o ddefnyddio pecynnau TG. Er enghraifft, pecynnau Microsoft fel Word, Outlook ac Excel.

Sgiliau ac Ymddygiadau Hanfodol

  • Y gallu i weithio ar eich liwt ei hun ac i derfynau amser tyn, gyda'r gallu i weithio'n hyblyg ac ymdopi ag amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd;
  • Sgiliau rhyngbersonol effeithiol a’r gallu i ymdrin ag amrywiaeth o bobl
  • Y gallu i ddangos sensitifrwydd a sicrhau bod y safonau cyfrinachedd uchaf yn cael eu cynnal

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i garethl.davies@senedd.cymru 

Ffurflen gais

Manyleb y Swydd a'r Person

Gwybodaeth Bwysig

Buddion gweithio i Aelod

Dyddiad cau: 13:00, 28 Hydref 2024.

Dyddiad cyfweliad: TBC