Cyfle Gwaith: Gweithiwr Achos ar gyfer Mair Rowlands

Cyhoeddwyd 31/07/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/07/2026

Cyfle Gwaith: Gweithiwr Achos ar gyfer Mair Rowlands

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - 42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

Natur y penodiad: Parhaol

Lleoliad: Swyddfa Etholaeth, Bangor

Cyfeirnod: MBS-127-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Ymdrin ag achosion cymhleth a sensitif, gan ddarparu cymorth ac atebion teilwredig i etholwyr. Gall hyn gynnwys cefnogi etholwyr i ymgyrchu yn erbyn y materion a nodwyd ganddynt drwy rannu gwybodaeth a rhoi cyngor mewn perthynas â'r broses ddeddfwriaethol, hawliau ac ati.
  • Ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â pholisi neu faterion cyfreithiol sy'n effeithio ar etholwyr ac uwchgyfeirio pryderon brys i'r Aelod.
  • Drafftio ac anfon llythyrau manwl, adroddiadau a chrynodebau o achosion ar ran yr Aelod.
  • Cyfathrebu ag adrannau’r llywodraeth, cynghorau lleol ac asiantaethau i gefnogi etholwyr i ddatrys problemau.
  • Uwchgyfeirio achosion i wasanaethau ombwdsmyn, Gweinidogion, neu bwyllgorau’r Senedd pan fo angen.
  • Datblygu dealltwriaeth gref o faterion lles, tai, mewnfudo, gofal iechyd a chyfreithiol er mwyn cefnogi etholwyr yn well.
    • Cefnogi gweithwyr achos iau, gan roi arweiniad ynghylch ymdrin ag achosion a gweithdrefnau gweinyddol.
    • Goruchwylio hynt achosion blaenoriaeth uchel a sicrhau ymatebion amserol.
    • Mynd i gymorthfeydd yr Aelod, ymgysylltu’n uniongyrchol ag etholwyr, cymryd nodiadau manwl, a nodi camau dilynol.
    • Cynrychioli'r Aelod mewn digwyddiadau cymunedol, cyfarfodydd lleol ac ymweliadau yn yr etholaeth.
    • Gweithredu o fewn y gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau'n gweithredu o’u mewn, gan gynnwys fframweithiau'r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) a fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol).

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Gwybodaeth gyfreithiol a pholisi yn ymwneud â thai, lles, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, o fewn swyddfa brysur.

 

Cymhwysterau hanfodol: 

·       Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

 

Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Mair Rowlands.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Mair.Rowlands-AS@Senedd.Cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 14 Awst 2026, 17:00 


Dyddiad cyfweliad: I'w Gadarnhau