Gweithiwr Achos Cymunedol a Chynorthwyydd Ymchwil ar gyfer Cefin Campbell AS
Ystod cyflog (pro rata): £27,722 – £40,321
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 22.2 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Ranbarthol Caerfyrddin
Cyfeirnod: MBS-012-25
Diben y swydd:
Rhoi cymorth gweinyddol, etholaethol, seneddol ac ymchwil i’r Aelod o’r Senedd, yn ogystal â chymorth gyda chyhoeddusrwydd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau:
- Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, gwleidyddion eraill, y cyfryngau, lobïwyr a charfanau pwyso.
- Datblygu a chynnal system gwaith achos a sicrhau y caiff yr holl achosion eu cofnodi; monitro cynnydd a sicrhau y gweithredir pob cam a nodwyd
- Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw a bod gwybodaeth yn cael ei rheoli'n gyfrinachol yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data
- Ymchwilio i faterion lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ôl y gofyn, gan gynnwys ar gyfer cyfraniadau i fusnes seneddol
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o waith gweinyddol, gwybodaeth am systemau swyddfa a gwaith ymchwil, yn ddelfrydol o fewn cyd-destun gwleidyddol.
- Profiad o fod mewn rôl debyg yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth ac ymchwil polisi cysylltiedig.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol
- Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gyfatebol mewn pwnc perthnasol.