Cyfle Gwaith: Gweithiwr ar gyfer Laura Jones MS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 7.4 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Gweithio o bell
Cyfeirnod: MBS-092-26
Diben y swydd:
Byddai Swyddog Gwaith Achos Band 3 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd fel arfer yn
gyfrifol am gynorthwyo etholwyr gyda materion y maent yn eu hwynebu ac am sicrhau eu
bod yn cael y cymorth angenrheidiol gan asiantaethau'r llywodraeth, cynghorau lleol a
sefydliadau eraill.
Prif ddyletswyddau:
- Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
- Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai,
mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd. - Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau
diogelu data.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Disgwylir iddynt ddatblygu hyfedredd mewn maes gwaith gweinyddol neu ymarferol; gallu ateb ystod safonol o ymholiadau gan eraill a gwybod pryd i atgyfeirio ymholiadau mwy cymhleth.
- Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
- Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor cymwys.
- Profiad o roi mesurau diogelu cymesur ar waith mewn perthynas â phlant ac oedolion sy’n agored i niwed.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.