Cyfle Gwaith: Lead Cydlynydd Cyfathrebu ar gyfer Kiera Marshall

Cyhoeddwyd 09/09/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/09/2026

Cyfle Gwaith: Lead Cydlynydd Cyfathrebu ar gyfer Kiera Marshall

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 29.6 awr / 4 diwrnod yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel / Swyddfa etholaethol
Cyfeirnod: MBS-171-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Arwain yn y gwaith o greu deunydd cyfryngau cymdeithasol a chynnwys.
  • Rheoli'r naws ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol.
  • Goruchwylio gwaith staff neu interniaid Band 3 i sicrhau gwaith o ansawdd uchel.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Yn meddu ar brofiad o dirwedd y cyfryngau ac yn defnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol. Profiad o gynghori ar gamau gweithredu gan y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.
  • Yn gallu dylanwadu ar agenda'r cyfryngau drwy gynllunio ymlaen llaw yn rhagweithiol ac yn datblygu strategaethau i ddiogelu a gwella enw da. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â'r cyfryngau, gan gynnwys llunio cynllun cyfathrebu, yn ofyniad allweddol.
  • Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Kiera.Marshall-AS@senedd.cymru.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Kiera.Marshall-AS@senedd.cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 16 Medi 2026 17:00

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau