a

a

Cyfle Gwaith: Pennaeth Staff ar gyfer Grŵp Plaid Cymru

Cyhoeddwyd 11/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2026

Cyfle Gwaith: Pennaeth Staff ar gyfer Grŵp Plaid Cymru

Ystod cyflog (pro rata): £55,191 - £65,816

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyfeirnod: MBS-107-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Ar y cyd ag Arweinydd y Blaid ac Aelodau eraill o’r Senedd sy’n Aelodau o’r Blaid, ac yng nghyd-destun y ffaith mai’r Blaid sydd mewn grym, goruchwylio amcanion strategol y grŵp a gyrru perfformiad er mwyn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
  • Arwain a chyflawni strategaeth y grŵp drwy weithgareddau staff y grŵp.
  • Cefnogi a chynghori'r Arweinydd, swyddogion y Grŵp ac Aelodau'r Grŵp mewn perthynas â materion seneddol.
  • Cefnogi dyletswyddau seneddol yr Arweinydd ac arwain swyddfa'r Arweinydd.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd gwleidyddol, gan gynnwys datrys 
    materion cymhleth mewn ffordd synhwyrol a doeth.
  • Cyfrifoldeb dros reoli tîm aml-ddisgyblaethol o staff sydd â hanes o lwyddiant o ran sicrhau canlyniadau.
  • Dealltwriaeth o weithdrefnau disgyblu.
  • Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd, NVQ (neu gymhwyster cyfatebol) mewn pwnc perthnasol e.e. Gwleidyddiaeth, Busnes neu Weinyddiaeth Gyhoeddus neu brofiad perthnasol sylweddol.
  • Cymhwyster proffesiynol neu academaidd priodol neu brofiad cyfatebol. 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Heledd.Fychan-AS@Senedd.Cymru 

I wneud cais, anfonwch eich cais at Heledd.Fychan-AS@Senedd.Cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 04 Medi 2026, 17:00


Dyddiad cyfweliad: wythnos yn dechrau 14 Medi 2026, 17:00