Cyfle Gwaith: Pennaeth Swyddfa ar gyfer Anna Brychan a Leticia Gonzalez AS
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel a Swyddfeydd yr Etholaeth
Cyfeirnod: CBA-203-26
Noder bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu am gyfanswm o 37 awr yr wythnos . Mae'r Aelod sy’n hysbysebu wedi ymrwymo i weithio gyda'r Aelodau arall o'i blaid a bydd y contract yn cael ei rannu rhwng Anna Brychan AS a Leticia Gonzalez AS.
Prif ddyletswyddau:
- Goruchwylio staff, sicrhau gweithrediadau swyddfa llyfn a dirprwyo cyfrifoldebau’n effeithiol. Rheoli cydweithwyr yn uniongyrchol, gan weithredu fel rheolwr llinell ar ran yr Aelod. Gall hyn gynnwys recriwtio, gwerthuso a nodi anghenion hyfforddi neu ddatblygu.
- Bod yn gyfrifol am gynghori neu hyfforddi eraill ar ystod o faterion safonol ar gyfer y maes gwaith e.e. iechyd a diogelwch, rheoli cofnodion.
- Sicrhau llywodraethu da, cydymffurfio â rheolau seneddol, codau ymddygiad, a chanllawiau moesegol.
- Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt rhwng yr Aelod a Chomisiwn y Senedd.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o arwain a chymell pobl i sicrhau bod polisïau, rhaglenni a strategaethau’n cael eu gweithredu’n effeithiol.
- Y gallu i ymchwilio i broblemau a materion cymhleth, eu dadansoddi ac argymell dulliau o’u datrys.
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth yn ddoeth a diplomyddol, ac yn ddelfrydol o fewn amgylchedd gwleidyddol.
- Dealltwriaeth o faterion cyfoes a phynciau sy’n berthnasol i Gymru a'r ardal leol, a diddordeb yn system wleidyddol Cymru.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.