Jenny Rathbone

Jenny Rathbone

Cyfle Gwaith: Pennaeth Swyddfa i Jenny Rathbone AS

Cyhoeddwyd 03/10/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2024   |   Amser darllen munudau

Pennaeth Swyddfa i Jenny Rathbone AS

Ystod Cyflog: £30,520 - £42,811 pro-rata

Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.

Oriau Gweithio: 29.6 (4 diwrnod yr wythnos)

Natur y penodiad: Parhaol

Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth (165 Heol Albany) a Thŷ Hywel

Cyfeirnod: MBS-036-24

Pwrpas y Swydd

Rheoli a chydgysylltu gwaith achos, ymchwil bolisi, a gweinyddiaeth ar gyfer yr Aelod o’r Senedd. Mae tasgau allweddol yn cynnwys ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau, delio â gwaith achos cymhleth, ac arwain ac ysgogi tîm y staff.

Prif ddyletswyddau:

  1. Rheoli tîm yr Aelod i ddarparu gwasanaeth ymchwil, gwaith achos a chymorth gweinyddol ymatebol ac effeithiol.
  2. Datblygu ystod o strategaethau ar gyfer sicrhau bod yr holl etholwyr yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar ail-lunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yn well
  3. Goruchwylio a chefnogi’r tîm staff, gan gynnwys o ran cynnydd a rheoli perfformiad, gan sicrhau yr ymdrinnir â’r holl waith achos yn unol ag egwyddorion Nolan a bod yr Aelod yn gallu hyrwyddo buddiannau’r bobl y mae’n eu cynrychioli
  4. Rheoli swyddfa effeithlon, fel bod ymholiadau ffôn ac electronig ac ymwelwyr yn cael eu trin yn briodol ac yn broffesiynol ac yn cydymffurfio â diogelu data

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol

  • Profiad amlwg, perthnasol o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb, a hynny mewn amgylchedd gwleidyddol yn ddelfrydol
  • Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i Ganol Caerdydd a dealltwriaeth ohonynt
  • Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn

Cymwysterau hanfodol

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
  • Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn Gwaith Gweinyddol Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.

I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â jackie.jones@senedd.cymru  

Dyddiad cau: 13:00, 26 Hydref 2024.

Dyddiad cyfweliad: 30 Hydref 2024.