cons cropped

cons cropped

Cyfle Gwaith: Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol i Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig

Cyhoeddwyd 28/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/10/2024   |   Amser darllen munudau

Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol i Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig

Ystod cyflog: £30,520- £42,811 (band 1).

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd hyd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 (Amser llawn)

Natur y penodiad: Dros dro, gydag opsiwn i'w gwneud yn barhaol

Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

Cyf: MBS-033-24

Diben y swydd

Gweithio fel rhan o’r tîm cyfathrebu i hyrwyddo Arweinydd ac Aelodau Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chynnig cyngor ymarferol i Aelodau unigol ar sut i wneud y mwyaf o’u presenoldeb ar-lein.

Prif ddyletswyddau

  1. Arwain ar ddarparu cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein rhagweithiol a diddorol i hyrwyddo gwaith Arweinydd ac Aelodau Grŵp Ceidwadwyr Cymru yn Senedd Cymru.
  2. Gwneud y mwyaf o'r defnydd o gyfryngau newydd, gan ddefnyddio'r ystod lawn o opsiynau sydd ar gael gan gynnwys fideos, graffeg, llwyfannau byw a blogiau, i ehangu cyrhaeddiad gwaith Ceidwadwyr Cymreig sy’n Aelodau o’r Senedd.
  3. Cynllunio, datblygu chwblhau ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau ar-lein sy’n ymwneud â busnes y Senedd.
  4. Trafod ag Aelodau o’r Senedd y Ceidwadwyr Cymreig a’u swyddfeydd i nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol

  • Profiad o weithio’n effeithiol gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau ar-lein, yn ddelfrydol mewn amgylchedd gwleidyddol neu amgylchedd tebyg.
  • Profiad ymarferol y gellir ei ddangos, a dealltwriaeth o ddatblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu digidol ac o drefnu ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau ar-lein.
  • Profiad o dwf organig o ddilynwyr a chyrhaeddiad ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddangos dealltwriaeth o algorithmau cyfryngau cymdeithasol.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau trin y cyfryngau digidol, yn arbennig ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol prif ffrwd, gan gynnwys Facebook, Twitter, Instagram a Tiktok.

Cymwysterau Hanfodol

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
  • gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.

Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon

I gael manylion am y swydd a i wneud cais, cysylltwch â Paul.Smith@senedd.cymru

Dyddiad cau: 23:00, 31 Hydref 2024.

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau