Cyfle Gwaith: Rheolwr Gwaith Achos ar gyfer Mark Hooper AS a Sarah Rees AS
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 – £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa’r Etholaeth (Y Barri), y Senedd a Gartref
Cyfeirnod: MBS-143-26
Prif ddyletswyddau:
- Ymdrin â'r achosion mwyaf anodd, sensitif, ac uchel eu proffil a allai fod yn gysylltiedig â meysydd y tu allan i gylch gwaith y Senedd ac a allai ofyn am waith partneriaeth ehangach.
- Cynllunio a rheoli llwythi gwaith eraill yn unol â gofynion yr Aelodau. Goruchwylio gweithwyr achos eraill yn y tîm yn unol â gofynion yr Aelodau, sicrhau bod gwaith yn cael ei drin yn effeithlon ac yn unol â diogelu data, Codau Ymddygiad, a chanllawiau swyddfa.
- Gwneud gwaith ymchwil manwl i faterion deddfwriaethol a pholisi sy'n ymwneud â gwaith achos, megis cyfraith tai, diwygiadau lles a pholisïau mewnfudo.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad sylweddol a gwybodaeth helaeth o ran systemau’r Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus a gweithdrefnau.
- Profiad o reoli a chydlynu llwythi achosion neu brofiad perthnasol arall mewn rolau tebyg.
- Dealltwriaeth gadarn o weithrediadau'r Senedd. Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol).
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.