Rheolwr Gweinyddu ar gyfer Zaynub Akbar AS
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 – £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 30
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd Cymru a/neu Swyddfa Etholaeth Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-047-26
Diben y swydd:
Bydd Swyddog Rheoli Busnes a Gweinyddiaeth Band 1 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelod) yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith rheoli a gweinyddu sy'n berthnasol i redeg swyddfa'r Aelod a gwaith beunyddiol yr Aelod yn esmwyth. Gall fod â goruchwyliaeth dros reoli cofnodion, gan sicrhau llwybrau archwilio clir mewn perthynas â phob gohebiaeth a bod data yn cael eu prosesu a'u storio yn unol â deddfwriaeth / rheoliadau ac atebolrwydd uniongyrchol am gynllunio a monitro llwyth gwaith a blaenoriaethu dyraniad ar gyfer meysydd gweithgarwch penodol er enghraifft, cymorthfeydd yr Aelod, gwaith achos neu ddigwyddiadau ymgysylltu.
Prif ddyletswyddau:
Rheoli Swyddfa a Rheoli Staff
• Goruchwylio staff, sicrhau gweithrediadau swyddfa llyfn a dirprwyo cyfrifoldebau’n effeithiol. Rheoli cydweithwyr yn uniongyrchol, gan fod yn rheolwr llinell ar ran yr Aelod. Gall hyn gynnwys recriwtio, gwerthuso a nodi anghenion hyfforddi neu ddatblygu.
• Yn gyfrifol am gynghori neu hyfforddi eraill ar ystod o faterion sy'n safonol ar gyfer y maes gwaith e.e. iechyd a diogelwch, rheoli cofnodion.
• Sicrhau llywodraethu da, cydymffurfio â rheolau seneddol, codau ymddygiad, a chanllawiau moesegol.
• Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt rhwng yr Aelod a Chomisiwn y Senedd.
• Goruchwylio’r gwaith o reoli cofnodion, gan sicrhau llwybrau archwilio clir, a bod data yn cael eu prosesu a’u storio yn unol â deddfwriaeth / rheoliadau.
• Atebolrwydd uniongyrchol am gynllunio a monitro llwyth gwaith, a blaenoriaethu dyraniadau ar gyfer meysydd gweithgarwch penodol e.e. cymorthfeydd yr Aelodau, gwaith achos neu ddigwyddiadau ymgysylltu, cydgysylltu a blaenoriaethu gwaith y tîm.
• Cynrychioli'r Aelod mewn cyfarfodydd allweddol gyda swyddogion y Llywodraeth, busnesau a grwpiau eiriolaeth.
• Datblygu strategaethau hirdymor i fynd i'r afael â materion allweddol yn yr etholaeth.
• Drafftio llythyrau ar ran yr Aelod o’r Senedd ar amrywiaeth o faterion.
• Ymateb i negeseuon e-bost, llythyrau ac ymholiadau tebyg mewn modd proffesiynol, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
• Rheoli cyllidebau yn effeithiol, gan gynnwys monitro gwariant a rhagweld gwariant yn y dyfodol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o arwain a chymell pobl i sicrhau bod polisïau, rhaglenni a strategaethau’n cael eu gweithredu’n effeithiol.
- Y gallu i ymchwilio i broblemau a materion cymhleth, eu dadansoddi ac argymell dulliau o’u datrys.
- Rheoli llwyth gwaith trwm gyda blaenoriaethau sy’n gwrthdaro.
- Ymdrin â materion gwleidyddol sensitif a chraffu gan y cyfryngau.
- Sgiliau gwneud penderfyniadau da, a hynny mewn amgylchedd gwleidyddol cyflym.
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig aeddfed iawn.
- Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd, NVQ (neu gymhwyster cyfatebol) mewn pwnc perthnasol e.e. Gwleidyddiaeth, Busnes neu Weinyddiaeth Gyhoeddus neu brofiad perthnasol sylweddol.
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Zaynub.Akbar-AS@Senedd.cymru .
Sylwer bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu fel swydd rhan-amser o 30 awr yr wythnos. Mae’r Aelod sy’n hysbysebu’r rôl wedi ymrwymo i weithio gydag Aelodau etholedig eraill ei blaid/ei phlaid i’r etholaeth maen nhw’n ei chynrychioli. Gall y rôl fod yn benodiad unigol gan yr Aelod sy’n hysbysebu, Aelod arall o’r etholaeth honno, neu gellir rhannu cyflogaeth rhwng mwy nag un Aelod.
Yn ogystal â Zaynub Akbar, yr Aelodau eraill o’r blaid sy’n cynrychioli etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf, a all benodi i’r rôl hon yw: Nick Carter a Dafydd Trystan Davies