Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ar gyfer Janet Finch-Saunders AS

Cyhoeddwyd 28/07/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/07/2026

 Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ar gyfer Janet Finch-Saunders AS

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 – £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa’r etholaeth
Cyfeirnod: MBS-125-26

Prif ddyletswyddau:

  • Goruchwylio staff, sicrhau bod y swyddfa’n gweithredu’n esmwyth a dirprwyo
    cyfrifoldebau’n effeithiol. Rheoli cydweithwyr yn uniongyrchol, gan fod yn rheolwr
    llinell ar ran yr Aelod. Gall hyn gynnwys recriwtio, gwerthuso a nodi anghenion
    hyfforddi neu ddatblygu.
  • Yn gyfrifol am gynghori neu hyfforddi eraill ar ystod o faterion sy'n safonol ar gyfer
    y maes gwaith, e.e. iechyd a diogelwch, rheoli cofnodion.
  • Sicrhau llywodraethiant da, cydymffurfio â rheolau seneddol, codau ymddygiad, a
    chanllawiau moesegol.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth lawn o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r
    Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd
    (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a
    chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys
    materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb, a hynny mewn
    amgylchedd gwleidyddol yn ddelfrydol.
  •  Profiad o fod mewn rôl debyg, yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a
    digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Janet.Finch-Saunders-MS@senedd.wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Janet.Finch-Saunders-MS@senedd.wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 31 Awst 2026, 5yh
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau