Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ar gyfer Joe Martin AS a Cai Parry-Jones AS

Cyhoeddwyd 02/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/09/2026

Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ar gyfer Joe Martin AS a Cai Parry-Jones AS

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth
Cyfeirnod: MBS-160-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Goruchwylio staff, sicrhau gweithrediadau swyddfa llyfn a dirprwyo cyfrifoldebau’n effeithiol.  Rheoli cydweithwyr yn uniongyrchol, gan weithredu fel rheolwr llinell ar ran yr Aelod. Gall hyn gynnwys recriwtio, gwerthuso a nodi anghenion hyfforddi neu ddatblygu.
  • Bod yn gyfrifol am gynghori neu hyfforddi eraill ar ystod o faterion safonol ar gyfer y maes gwaith e.e. iechyd a diogelwch, rheoli cofnodion. 
  • Sicrhau llywodraethu da, cydymffurfio â rheolau seneddol, codau ymddygiad, a chanllawiau moesegol.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr. 
  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth yn ddoeth a diplomyddol, ac yn ddelfrydol o fewn amgylchedd gwleidyddol.  
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur. 

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd, NVQ (neu gymhwyster cyfatebol) mewn pwnc perthnasol, e.e. Gwleidyddiaeth, Busnes neu Weinyddiaeth Gyhoeddus, neu brofiad perthnasol sylweddol.

 

Noder bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu am gyfanswm o 37 awr yr wythnos (18.5 awr yr un) .  Mae'r Aelod sy’n hysbysebu wedi ymrwymo i weithio gyda'r Aelodau arall o'i blaid a bydd y contract yn cael ei rannu rhwng sawl Aelodau. Yn ogystal â Joe Martin AS, yr Aelod arall o'i blaid a allai benodi i'r rôl hon yw Cai Parry-Jones AS

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Joe.Martin-MS@senedd.wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Joe.Martin-MS@senedd.wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 4 Medi 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau