Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ar gyfer Rebeca Phillips AS
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 – £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Ystradgynlais
Cyfeirnod: MBS-076-26
Diben y swydd:
Bydd Swyddog Rheoli Busnes a Gweinyddiaeth Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith sy'n berthnasol i redeg swyddfa'r Aelod a gwaith beunyddiol yr Aelod yn esmwyth. Gall gwaith o'r fath gynnwys cyllid, rheoli dyddiaduron, cadw cofnodion neu waith sy'n gysylltiedig â phobl.
Prif ddyletswyddau:
- Cynnal gweithrediadau dyddiol swyddfa'r Aelod.
- Ymdrin ag e-byst, galwadau ffôn a rheoli dyddiadur yr Aelod.
- Cynllunio a rheoli llwyth gwaith personol a llwyth gwaith eraill yn unol â gofynion yr Aelod.
- Sicrhau y caiff adnoddau’r swyddfa eu defnyddio'n effeithiol, gan gynnwys archwilio ac archebu deunydd swyddfa.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth dda o sut mae'r Senedd yn gweithio neu ymrwymiad i ddysgu fframwaith y Senedd. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
- Profiad o weithio mewn timau, gyda'r gallu i gydlynu staff, interniaid a gwirfoddolwyr yn effeithiol.
- Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o amrywiaeth o weithdrefnau gwaith sy’n deillio o brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.