Rheolwr Swyddfa i Altaf Hussain AS
Ystod cyflog (pro rata): £30,520 - £42,811
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 3.5
Natur y penodiad: Cyfnod penodol
Lleoliad: O bell
Cyfeirnod: MBS-062-24
Diben y swydd:
Rheoli a chydgysylltu'r gwasanaethau cymorth, gan gynnwys ymchwil, gweinyddiaeth a gwaith achos ar gyfer yr Aelod o’r Senedd. Bydd y tasgau allweddol yn cynnwys arwain ac ysgogi’r tîm o staff a rheoli cyllidebau a systemau'r swyddfa.
Prif ddyletswyddau:
- Rheoli systemau’r swyddfa, goruchwylio gweithgareddau’r swyddfa, trefnu’r llwyth gwaith a gweithio'n agos gydag aelodau eraill o staff i sicrhau bod pawb yn gweithio’n gydlynol fel tîm.
- Darparu cymorth ysgrifenyddol, gwaith achos, ymchwil a gweinyddol cynhwysfawr yn ôl y galw.
- Cydgysylltu gweithgareddau'r swyddfa i sicrhau yr ymdrinnir ag ymholiadau ffôn, ymholiadau electronig ac ymwelwyr mewn modd priodol a phroffesiynol.
- Drafftio llythyrau ar ran yr Aelod o’r Senedd ar amrywiaeth o faterion.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth mewn ffordd ddoeth a diplomataidd, a hynny mewn amgylchedd gwleidyddol yn ddelfrydol.
- Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rheoli swyddfa brysur.
- Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i'r ardal leol a dealltwriaeth ohonynt.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn Gweinyddiaeth Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol.