Cyfle Gwaith: Swyddog Cyfathrebu a Datblygu ar gyfer Jane Dodds AS

Cyhoeddwyd 08/10/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/10/2026

Cyfle Gwaith: Swyddog Cyfathrebu a Datblygu ar gyfer Jane Dodds AS

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 14.8 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa’r Etholaeth a’r Senedd
Cyfeirnod: CBA-198-26

Prif ddyletswyddau:

  • Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau gwleidyddol yr Aelod.
  • Gweithredu fel y prif gyswllt cyfryngau, gan ymgysylltu’n rhagweithiol â newyddiadurwyr a darlledwyr.
  • Ysgrifennu datganiadau i'r wasg, erthyglau barn a briffiau i'r cyfryngau sy'n cael effaith fawr.
  • Rheoli ymddangosiadau yn y cyfryngau a pharatoi ar gyfer cyfweliadau, gan gynnwys drafftio negeseuon allweddol.
  • Ymdrin â risgiau i enw da a chynghori ar ymatebion yn y cyfryngau.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Profiad sylweddol o faes y cyfryngau, gan ddefnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol, yn ddelfrydol mewn cyd-destun gwleidyddol. Gwybodaeth am gyfraith y cyfryngau.
  • Profiad o gynghori ar gamau gweithredu ym maes y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.  

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Jane.Dodds-MS@Senedd.Wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Jane.Dodds-MS@Senedd.Wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 22 Hydref 2026, 17:00
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau