Jenny Rathbone

Jenny Rathbone

Cyfle Gwaith: Swyddog Cyfathrebu a Gweinyddol i Jenny Rathbone AS

Cyhoeddwyd 31/05/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2024   |   Amser darllen munudau

Swyddog Cyfathrebu a Gweinyddol i Jenny Rathbone AS

Ystod cyflog: £23,742 - £31,798 pro-rata

Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.

Oriau gwaith: 29.6 (4 diwrnod yr wythnos)

Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth

Natur y penodiad: Parhaol.

Cyf: MBS-034-24

Diben y swydd:

Darparu cefnogaeth cyfathrebu, cyswllt cymunedol a chefnogaeth weinyddol i’r Aelod; mae angen safon uchel o ran cyfrinachedd.

Prif ddyletswyddau:

  1. Cynnal presenoldeb yr Aelod ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter a Facebook.
  2. Cadw dyddiadur apwyntiadau i'r Aelod, paratoi ymatebion drafft i ohebiaeth arferol, a dethol a threfnu papurau ar gyfer cyfarfodydd.
  3. Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, gwleidyddion eraill, y cyfryngau, lobïwyr a grwpiau pwyso.
  4. Drafftio taflenni, llythyrau postio uniongyrchol, a fideos hyrwyddo.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Dealltwriaeth o Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymiad iddynt.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyfathrebu ar draws ystod o blatfformau, gan gynnwys meddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith.
  • Profiad addas o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa

Cymwysterau Hanfodol

  • Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch.

Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Alex.Sims@senedd.cymru 

Dyddiad cau: 13:00, 6 Tachwedd 2024

Dyddiad cyfweliad: 13 Tachwedd 2024