Swyddog Cyfathrebu a Materion Seneddol ar gyfer Heledd Fychan AS
Ystod cyflog (pro rata): £27,722 – £40,321
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor penodol am 10 mis
Lleoliad: Ty Hywel/Swyddfa ym Mhontypridd
Cyfeirnod: MBS-040-25
Diben y swydd:
Arwain ar bob agwedd ar waith cyfathrebu yr Aelod o’r Senedd mewn perthynas â gwaith rhanbarthol a seneddol, gan gynnwys ymgyrchoedd.
Prif ddyletswyddau:
- Sefydlu ystod eang o gysylltiadau â'r wasg, y cyfryngau ar-lein a’r cyfryngau darlledu er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o waith yr Aelod o’r Senedd. Mae hyn yn cynnwys trefnu cyfweliadau a chyfleoedd gyda'r wasg ar ran yr Aelod o’r Senedd a bod yn bresennol gyda nhw yn ôl y gofyn.
- Ymchwilio, paratoi ac ysgrifennu datganiadau i'r wasg, datganiadau ac erthyglau ar gyfer y cyfryngau.
- Sefydlu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau, cymorthfeydd ac ati, ac ymateb i ymholiadau a sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol
- Datblygu a gweithredu cynlluniau cyfathrebu ac ymgyrchu tymor byr a thymor hirach i gynnwys cyfleoedd posibl gyda’r cyfryngau.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn lleoliad seneddol neu leoliad cyfatebol
- Gwybodaeth am ddulliau o ymdrin â’r cyfryngau, a dealltwriaeth ohonynt gan gynnwys dylunio cynllun cyfathrebu.
- Dealltwriaeth o'r angen i adlewyrchu barn yr Aelod o’r Senedd mewn modd sy'n adlewyrchu cyfle cyfartal ac nad yw'n ymfflamychol, yn ansensitif, yn enllibus, yn athrodus nac yn ddifenwol
- Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
- Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol;
- Cymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu; neu
- Brofiad gwaith perthnasol
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Eleri.Griffiths@Senedd.Cymru