Cyfle Gwaith: Swyddog Cyfathrebu ar gyfer Dafydd Trystan Davies AS

Cyhoeddwyd 02/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/06/2026

Swyddog Cyfathrebu ar gyfer Dafydd Trystan Davies AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd Cymru a/neu swyddfa etholaethol Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-031-26

Diben y swydd: 

Bydd Swyddog Cyfathrebu Band 2 sy’n gweithio i Aelod o’r Senedd (Aelod) yn gwneud gwaith ymchwil, y wasg a’r cyfryngau yn ôl yr angen, gan sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu lledaenu i bobl drwy’r cyfrwng mwyaf priodol.

Prif ddyletswyddau:

  • Gweithredu fel y prif gyswllt cyfryngau, gan ymgysylltu â newyddiadurwyr a 
    darlledwyr.
  • Rheoli'r naws ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol. 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Yn meddu ar brofiad o dirwedd y cyfryngau ac yn defnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol. Profiad o gynghori ar gamau gweithredu gan y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.
  • Yn gallu dylanwadu ar agenda'r cyfryngau drwy gynllunio ymlaen llaw yn rhagweithiol ac yn datblygu strategaethau i ddiogelu a gwella enw da. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â'r cyfryngau, gan gynnwys 
    llunio cynllun cyfathrebu, yn ofyniad allweddol.

Cymhwysterau hanfodol: 

  •  Yn dangos profiad o amrywiaeth o weithdrefnau gwaith sy’n deillio o brofiad gwaith perthnasol;  
  • a/neu gymhwyster galwedigaethol, er enghraifft, NVQ neu gymhwyster cyfatebol ym maes y cyfryngau neu gyfathrebu.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Dafydd.TrystanDavies-AS@senedd.cymru 

Sylwer bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu fel swydd llawn amser, 37 awr yr wythnos. Mae’r Aelod sy’n hysbysebu’r rôl wedi ymrwymo i weithio gydag Aelodau etholedig eraill ei blaid i’r etholaeth maen nhw’n ei chynrychioli.  Gall y rôl fod yn benodiad unigol gan yr Aelod sy’n hysbysebu, Aelod arall o’r etholaeth honno, neu gellir rhannu cyflogaeth rhwng mwy nag un Aelod. 

Yn ogystal â Dafydd Trystan Davies yr Aelodau eraill o’r blaid sy’n cynrychioli etholaeth a all benodi i’r rôl hon yw: Zaynub Akbar, a Nick Carter 


Dyddiad cau: 15 Mehefin 2026, 12yh (canol dydd)
Dyddiad cyfweliad: TBC