Swyddog Cyfathrebu ar gyfer James Evans AS
Ystod cyflog (pro rata): £25,167 - £33,706
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 22.2 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 11 mis
Lleoliad: Tŷ Hywel, Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-017-25
Diben y swydd: Gwneud gwaith ymchwil/gwaith sy’n ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau ar ran yr Aelod o’r Senedd yn ôl y gofyn, gan sicrhau y caiff safonau cyfrinachedd eu cadw.
Prif ddyletswyddau:
- Cysylltu ag ystod eang o gysylltiadau â’r wasg, y cyfryngau darlledu a’r cyfryngau ar-lein er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod o’r Senedd.
- Gwneud gwaith ymchwil, paratoi ac ysgrifennu datganiadau i'r wasg ar gyfer y cyfryngau.
- Trafod gyda’r Aelod o’r Senedd / y Rheolwr Swyddfa a nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i’r cyfryngau.
- Sefydlu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau, cymorthfeydd ac ati, ac ymateb i ymholiadau a sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Sicrhau y rheolir systemau swyddfa'r wasg yn esmwyth a sefydlu system effeithiol o fonitro'r cyfryngau, gan gynnwys y cyfryngau print, darlledu ac ar-lein
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio’n effeithiol yn y wasg ysgrifenedig, y byd darlledu neu ar-lein, neu’r sector cysylltiadau cyhoeddus
- Gwybodaeth am ddulliau o ymdrin â’r cyfryngau, a dealltwriaeth ohonynt gan gynnwys dylunio cynllun cyfathrebu.
- Dealltwriaeth o’r angen i adlewyrchu barn yr Aelod o’r Senedd mewn modd sy’n adlewyrchu cyfle cyfartal ac nad yw’n ymfflamychol, yn ansensitif, yn enllibus, yn athrodus neu’n ddifenwol
- Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.