a

a

Cyfle Gwaith: Swyddog Cyfathrebu i Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd. Wedi cyflogi gan Rhun ap Iorwerth AS.

Cyhoeddwyd 21/02/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/02/2025

Swyddog Cyfathrebu i Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd. Wedi cyflogi gan Rhun ap Iorwerth AS.

Ystod cyflog (pro rata): £26,153 - £38,039

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

Cyfeirnod MBS: MBS-053-24

Diben y swydd:

Ymgymryd â gwaith sy'n gysylltiedig â'r wasg, y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol i Grŵp y Senedd yn ôl y gofyn, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau: 

  1. Sefydlu a datblygu cysylltiadau cadarn yn y wasg a'r cyfryngau darlledu ac ar-lein, er mwyn hyrwyddo gwaith Grŵp Senedd Plaid Cymru dan arweiniad y Pennaeth Cyfathrebu
  2. Ymchwilio, paratoi ac ysgrifennu datganiadau i’r wasg a’r cyfryngau
  3. Cynhyrchu cynnwys creadigol a dynamig ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol
  4. Sicrhau bod systemau swyddfa’r wasg yn rhedeg yn esmwyth a chefnogi system effeithiol o fonitro’r cyfryngau, gan gynnwys y cyfryngau print, darlledu ac ar-lein

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Profiad o ymdrin â'r cyfryngau / y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys llunio datganiadau i'r wasg a chynlluniau cyfathrebu, a dealltwriaeth ohonynt
  • Profiad o drefnu ymgyrchoedd yn y cyfryngau
  • Dealltwriaeth o frwydro yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac ymrwymiad i'r rheini ac i Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
  • Cymhwyster ffurfiol, er enghraifft cymhwyster NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfwerth, ym maes y cyfryngau neu gyfathrebu

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Francess.Ifan@senedd.cymru 

 


Dyddiad cau: 17:00, 03 Mawrth 2025
Dyddiad cyfweliad: wythnos sy'n dechrau 10 Mawrth 2025