Cyfle Gwaith: Swyddog Cymorth i’r Grŵp ar gyfer Y Ceidwadwyr Cymreig
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 – £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 Awr
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 12 mis
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-087-26
Diben y swydd:
Bydd Swyddog Rheoli Busnes a Gweinyddol Band 3 sy’n gweithio i Aelodau o'r Senedd
fel arfer yn gyfrifol am gynorthwyo gyda phob agwedd ar redeg swyddfa'r Aelodau, gan
gynnwys darparu cymorth gweinyddol yn uniongyrchol i'r Aelodau
Prif ddyletswyddau:
- Cefnogi swyddogaethau ymchwil a chyfathrebu Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ôl
yr angen. - Casglu papurau a deunyddiau briffio i gefnogi Aelodau Grŵp y Ceidwadwyr
Cymreig wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau yn y Senedd. - Helpu i gydgysylltu ymddangosiadau cyhoeddus a chyfweliadau gan Arweinydd a
Llefarwyr Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion polisi penodol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i waith y Senedd.
- Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch
gwybodaeth. - Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd,
diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i
geisio cyngor cymwys.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn
seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ
lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol. - Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Cymraeg/Saesneg a
Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall
addas.
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â darren.millar-ms@senedd.wales
Dyddiad cau: 29 Mehefin 2026, 5yp
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau