cons

cons

Cyfle Gwaith: Swyddog Cymorth i’r Grŵp ar gyfer Y Ceidwadwyr Cymreig (rhan amser)

Cyhoeddwyd 22/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/06/2026

Cyfle Gwaith: Swyddog Cymorth i’r Grŵp ar gyfer Y Ceidwadwyr Cymreig

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 – £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 7.4 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 12 mis
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-088-26

Diben y swydd: 

Bydd Swyddog Rheoli Busnes a Gweinyddol Band 3 sy’n gweithio i Aelodau o'r Senedd fel arfer yn gyfrifol am gynorthwyo gyda phob agwedd ar redeg swyddfa'r Aelodau, gan gynnwys darparu cymorth gweinyddol yn uniongyrchol i'r Aelodau.

Prif ddyletswyddau:

  • Cefnogi swyddogaethau ymchwil a chyfathrebu Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ôl
    yr angen.
  • Casglu papurau a deunyddiau briffio i gefnogi Aelodau Grŵp y Ceidwadwyr
    Cymreig wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau yn y Senedd.
  • Helpu i gydgysylltu ymddangosiadau cyhoeddus a chyfweliadau gan Arweinydd a
    Llefarwyr Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion polisi penodol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i waith y Senedd.
  • Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch
    gwybodaeth.
  • Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd,
    diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i
    geisio cyngor cymwys.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn
    seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ
    lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Cymraeg/Saesneg a
    Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall
    addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â darren.millar-ms@senedd.wales

Dyddiad cau: 29 Mehefin 2026, 5yp
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau